Bachgen Bach o Ferthyr
o "Darllen a Chwarae"

Adargraffwyd ā chaniatād caredig
Gwasg Prifysgol Cymru


Yn y flyddyn 1841 ganwyd bachgen bach yn Chapel Row, Merthyr Tydfil, o'r enw Joseph Parry.

Ef oedd yr ieuengaf ond un o wyth o blant.  Gweithiai ei dad yng ngwaith haearn Cyfarthfa, a cheir hanes Joseph bach, yn bum mlwydd oed, yn dilyn y band pres drwy strydoedd Merthyr ac yn chwibanu'r nodau heb drafferth yn y byd.

Yn naw mlwydd oed, yr oedd yn edrych ar o^l do^r yn y lofa, ac yn ennill hanner coron yr wythnos.  Canai alto yng ngho^r Bethesda, a'i frawd yng nghyfraith yn arwain.  Pan oedd yn ddeuddeg oed, a^i adref yn fynych ar o^l y gwasanaeth nos Sul i newid ei ddillad at fynd i weithio'r nos yng ngwaith Cyfarthfa.

Mewn eisteddfod yn Aberda^r yr oedd sith go^r yn cystadlu ar ganu "Teyrnasoedd y Ddaear". Yr oedd Joseph yn canu alto yn un ohonynt, a rhannwyd y wobr o saith gini rhwng y saith go^r!

Yn 1854 ymfudodd y teulu i America, a Joseph yn dair a ddeg oed.  Yn Danville, Pensylvania, yr oedd ei gartref newydd, ac yn y Rolling Mills y bu'n gweithio an ddeuddeng mlynedd.  Ni chawsai Joseph addysg o unrhyw fath, ond yn yr Ysgol Sul, a phan oedd yn ddwy flwydd ar bymtheg oed, ni ddeallai yr un nodyn o gerddoriaeth ar bapur.

Cafodd gwrs o dri mis mewn cerddoriaeth dan athro o'r enw Bassini yn 1861, ac yn y flwyddyn nesaf enillodd wobrau lawer am gyfansoddi yn America.  Yn 1863 enillodd y prif wobrau i gyd yn Eisteddfod Abertawe; yr oedd rhai o'i gyfansoddiadau mor dda fel y gohiriwyd rhoddi'r wobr nes cael prawf pellach mai ef a'u gwnaeth.  Yn 1864, yn Llandudno, enillodd y prif wobrau eto, a dywedai'r beirniaid fod ei gerddoriaeth ymhell uwchlaw gwaith y lleill i gyd.

Yn 1865 daeth drosodd o America i Eisteddfod Aberystwyth, ond aeth ei waith ar goll, ac er chwilio amdano yma ac yn America, ni welwyd byth mohono.  Un o gyfansoddiadau Aberystwyth oedd "Ar Don o flaen y Gwyntoedd", ac er nad oedd ganddo gopi ohoni, fe'i hysgrifennodd o'i gof.

Yn Aberystwyth cafodd am y waith gyntaf gyfarfod a siarad a^ phrif gerddorion Cymru yn y cyfnod hwnnw, sef Ieuan Gwyllt, Ambrose Lloyd, Gwilym Gwent, John Thomas (Llanwrtyd), John Thomas (Pencerdd Gwalia), Alaw Ddu, Emlyn Evans, a Thanymarian.  Derbyniwyd ef i'r "Orsedd," a'i urddo wrth y ffugenw Pencerdd America.

Aeth so^n am y "bachgen bach o Ferthyr" dros yr holl wlad, ac o'r diwedd casglodd Cymry America ddigon o arian i'w anfon i'r Royal Academy yn Llundain.  Yno y bu o 1868 hyd 1871, dan y prifathro Dyr Sterndal Bennett, oedd yn gyfaill i Mendelssohn.  Enillodd Parry wobrwyon bob blwyddyn, a derbyniodd hwynt o law Mrs. Gladstone--gwraig y Prif Weinidog enwog, W. E. Gladstone.

" Ai Cymro ydych?" ebe Mrs. Gladstone.

"Ie, Madam, " Meddai Parry.

"Wel, " ebe hi, "Cymraes wyf finnau hefyd, ac y mae'n hyfryd gennyf gyflwyno gwobr i chwi fel un o'r un wald a^ minnau."

Ar derfyn y drydedd flwyddyn aeth drwy'r arholiad am radd Baglor mewn Cerddoriaeth (Mus. Bac.) yng Nghaergrawnt; ac yn 1878 enillodd rad Doethur ( Mus. Doc.) --y Cymro cyntaf i wneud hynny yn y ganrif ddiwethaf (er mai i fod yn Ddoethur Musig yn Lloger, un yr unfed ganrif ar bymtheg).

Yn y blynyddoedd 1874-80 bu yn athro Cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, a thra oedd yno yn 1876-7 cyfansoddodd y do^n fyd-enwog "Aberystwyth".

O 1881 hyd 1888 bu yn Abertawe, lle y sefydlodd Goleg Cerddoriaeth i Gymru.  Ef hefyd oedd organydd Capel Ebeneser.  Yn 1888 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd, ac yno y bu hyd ei farw yn 1903.

Cofiwn mai Dr. Parry a roddodd i ni Blodwen, ein hopera gyntaf.  Mae ei donau yn annwyl iawn gan y Vymry, ac fe'u cenir tra bo Cymru'n bod.  Mae'r plant yn hoff iawn o'r Milwr Bychan, a mae corau meibion wedi cystadlu lawer gwaith ar Iesu o Nasareth a'r Pererinion.  Cyfansoddodd hefyd lawer iawn o ganeuon fel Baner ein Gwald a'r Gardotes Fach.  Mae plant Cymru, wrth gwrs, yn gwybod am Cantata yr Adar, ac yn diolch i'r
"bachgen bach a Ferthyr" am ei roddi iddynt.

Mae ei donau, ai anthemau, a'i ganigau ef ar wefusau miloedd o weithwyr ein gwlad, a byddant fyw byth yng nghalon Cymru fach.
Nol i dudalen
cartref llyfrell

Yr Ail Lyfr
Gwasg
Prifysgol Cymru
Gwasg
Prifysgol Cymru
USA Distributor