Y Cymry a'r Normaniaid
o "
Sieffre o Fynwy"

Awdur:  A. O. H. Jarman
Adargraffwyd ‚ chaniat‚d caredig
Gwasg Prifysgol Cymru

      Ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif yr oedd Cymru fel gwlad a chenedl mewn argyfwng dybrud. Genhedlaeth ynghynt yr oedd y Normaniaid wedi gorchfygu Lloger, ac yn awr yr oeddynt yn edrych i gyfeiriad Cymru. O Gaer ac Amwythig a Henffordd a Chasgwent ymwthiai byddinoedd y barwniaid rheibus ar hyd yr arfordiroedd a dyffrynnoedd yr afonydd, gan adeiladu ceyrydd a chestyll yng nghanol y wlad Gymreig. Treiddiasant yn bell mewn byr amser, ond er hynny bu'n rhaid iddynt cyn hir wynebu gwrthsafiad nerthol a chynyddol ar ran y Cymry. Cododd arweinwyr milwrol ymosodol megis gruffudd ap Cynan a Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr i lywio'r gwrthsafiad hwn, ac fel yr aeth y ddeuddegfed ganrif ymlaen llwyddodd y Cymry, dan arweiniad tywysogion fel Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys a Ddeheubarth ac eraill, i arafu rhuthr yr ymosodiad Normanaidd ac yn wir i'w droi'n Űl, ac i ohirio'r goncwest derfynol, yng Ngwynedd o leiaf, hyd ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

      Teimladau cymysg a gaiff y Cymro heddiw, yn arbennig os yw'n wr o ddychymyg, wrth astudio hanes y ddwy ganrif rhwng glaniad cyntaf Gruffudd ap Cynan yn 1075 a chwymp Llywelyn y Llyw Olaf yn 1282. Amddiffynnai'r Cymry eu cartrefi a'u gwald yn aml gyda dewrder a phenderfyniad nodedig.  Bryd arall byddai gwendidau eu sefyllfa ynghyd ‚ffaeleddau'r natur ddynol yn peri i  amgylchiadau fynd yn drech na hwy, ac ymddangosai anundeb ac  annheyrngarwch a brad yn eu plith.  Bu llawer o ddial ac ysbeilio creulon a dinistrio ofer.   Trwy'r cyfan, rhaid cofio mai brwydr amddiffynnol a ymladdai'r Cymry, brwydr i fwrw allan dreiswyr eston a oedd wedi meddiannu eu tiroedd brasaf. Rhyfel a ymladdwyd ar dir Cymru ei hun yn unig ydoedd a diau nad oedd iddo'r pwysigrwydd, mewn termau milwrol a gwleidyddol, a oedd i lawer o ryfeloedd eraill yr Oesoedd Canol yn Ewrob.  Nid oedd Cymru'n un o 'bwerau mawr' y byd yn y ddeuddegfed ganrif, fwy nag yn unrhyw gyfnod arall, ac nid er mwyn ennill safle o'r fath yr ymladdai'r Cymry. Ond yn annisgwyl a heb ei geisio, ac yn wir heb fod yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd, fe ddaeth I Gymru yn ystod y ddeuddegfed ganrif ddylanwad a phwysigrwydd mewn maes arall o fath na allay freuddwydio an ei gael yn y byd milwrol a gwleidyddol. Y maes hwnnw oedd llenyddiaeth y dychymyg.  Mewn ysbaid byr o amser, tra oedd y Normaniaid yn treiddio trwy ddyffrynnoedd Cymru ac yn darostwng eu preswylwyr i'w hiau, death llenyddiaeth Gymraeg, ac yn arbennig y cyfoeth o draddodiadau a stor?au llafar a drosglwyddid o genhedlaeth i genhedlaeth gan y chwedleuwyr proffesyddol, yn un o'r dylanwadau mwyaf creadigol ac ehangaf ei ddosbarthiad yn y byd EwropŽaidd diwylliedig. Un o brif gyfryngau'r dylanwad mawr hwnnw oedd Sieffre o Fynwy, testun y llyfr hwn. A gwr oedd ef na byddai sŰn amdano oni bai am ddyfodiad y Normaniaid i Gymru.

Y Cyntaf Llyfr
Nol i dudalen
cartref llyfrell

Yr Ail Lyfr
Gwasg
Prifysgol Cymru
Gwasg
Prifysgol Cymru
USA Distributor